Mae rhagor o wybodaeth wedi dod i’r fei ynglŷn â damwain awyren yn Ethiopia sydd wedi sbarduno gwaharddiadau rhyngwladol.

Fe blymiodd yr awyren Boeing 737 Max i’r ddaear ddydd Sul (Mawrth 10) gan ladd pob un o’r 157 o bobol ar ei bwrdd.y

Dma’r ail dro mewn chwe mis i’r nath yma o awyren syrthio o’r awyr, a bellach mae gwledydd ledled y byd wedi gwahardd y 737 Max rhag hedfan dros eu tir.

Mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi dechrau ar y gwaith o wrando ar gofnodion llais o flychau du’r awyren.

Yn ôl adroddiad gan y New York Times, mi ofynnodd peilot yr awyren am ganiatâd i ddychwelyd i’r maes awyr yn fuan wedi i’r awyren adael y llain lanio.

Mae llygad dystion yn dweud bod yr awyren wedi symud mewn modd afreolaidd ar ôl codi i’r awyr, yn ôl yr adroddiad.