Mae corwynt sydd wedi’i ddisgrifio gan ymladdwyr tân fel un “byrhoedlog ond chwyrn” wedi difrodi degau o dai yng ngorllewin yr Almaen.

Fe fu’n rhaid i ddwsinau o drigolion adael eu tai wedi i’r corwynt daro Roetgen, ger y ffin â gwlad Belg.

Mae ffilmiau yn dangos y corwynt yn sgubo trwy’r dre’ fechan.

Yn ôl yr awdurdodau, mae pump o bobol wedi eu hanafu, tra bod 30 o dai wedi eu difrodi.