thensiynau rhwng India a Phacistan, mae cynrychiolwyr o’r ddwy ochr wedi cwrdd i drafod yr hawl i dramwyo i gyrchfan gysegredig.

Sefydlydd crefydd Siciaeth yw Guru Nanak, a chafodd man sanctaidd ei adeiladu yn Pacistan yn yr 17eg ganrif. Mae’r safle yn agos at y ffin ag India ac mae’n fan cysegredig i Siciaid o’r wlad honno.

Gobaith y ddwy wlad yw rhoi trwyddedau arbennig i bererinion fel eu bod yn medru croesi’r ffin i ymweld â’r safle.

A bellach mae’r gwaith o wireddu hynny wedi dechrau.

Daeth tensiynau rhwng India a Phacistan i’w hanterth fis diwethaf pan gafodd 40 o filwyr Indaidd eu lladd gan hunanfomiwr.

Yn sgil hynny mi gynhaliodd India gyrch awyr ym Mhacistan, ac ymatebodd eu cymydog trwy saethu dwy awyren Indiaidd.