Mae gwleidyddion yn nhaleithiau Arkansas ac Utah yn yr Unol Daleithiau wedi pleidleisio o blaid deddfwriaeth sy’n gwahardd erthylu babi ar ôl 18 wythnos.

Fe basiwyd y gyfraith yn Arkansas o 86 pleidlais i 1. Mae’r dalaith eisoes wedi gwahardd terfynu beichiogrwydd wedi 20 wythnos.

Mae cynrychiolwyr Utah hefyd wedi pleidleisio o blaid y gwaharddiad wedi 18 wythnos – gydag eithriadau mewn achosion o drais, llosgach, bywyd y fam, a namau difrifol iawn ar y babi.

Mae ymgyrchwyr yr American Civil Liberties Union wedi addo mynd â gwleidyddion i gyfraith am basio’r fath ddeddfwriaeth.