Mae dau banda mawr yn cael eu hanfon i sŵ yn Denmarc – yn “anrheg” i’r wlad gan Tsieina.

Mae edrych ymlaen mawr yn Sgandinafia am Ebrill 4, pryd y bydd y ddau greadur du a gwyn yn cyrraedd, ac yna’n symud i fyw yn y Tŷ Panda newydd yn sŵ Copenhagen – y digwyddiad “mwyaf” ers i’r warchodfa agor 160 mlynedd yn ôl, meddai wardeiniaid.

Denmarc yw’r wlad ddiweddara’ i dderbyn panda yn “anrhegion diplomyddol” gan Tsieina.

Fe fu prif weinidog y wlad, Lars Loekke Rasmussen, ar  ymweld â Tsieina ym mis Mai y llynedd, lle mae’r anifeiliaid yn cael eu hystyried yn symbolau o bŵer diwylliannol a gwleidyddol Tsieina.