Mae’r 737 o garcharorion ar y ‘Death Row’ hiraf yn yr Unol Daleithiau, yn mynd i gael eu harbed gan lywodraethwr Califfornia. Mae’n bwriadu arwyddo dogfen sy’n gosod moratoriwm ar y gosb eithaf yn y dalaith.

“Mae lladd unrhyw un yn fwriadol yn anghywir,” meddai Gavin Newsom, “ac fel llywodraethwr, wna’ i ddim goruchwylio dienyddiad unrhyw unigolyn.”

Mae’n dweud fod y gosb eithaf yn “methu” a’i bod yn gwahaniaethu yn erbyn pobol sy’n feddyliol sâl, sy’n dod o gefndiroedd ethnig, neu bobol sy’n methu fforddio twrneiod drud.

“Mae yna bobol ddiniwed wedi cael eu carcharu, ac mae’n debyg eu bod nhw wedi cael eu lladd ar gam dan y drefn yma,” meddai’r llywodraethwr wedyn.”

Dydi Califfornia ddim wedi dienyddio neb ers 2006, pan oedd yr actor Arnold Schwarzenegger yn llywodraethwr.