Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd o Wall Street (Urban CCA 3.0)
Mae protestiadau yn erbyn y banciau wedi lledu ar draws yr Unol Daleithiau, gyda channoedd yn gorymdeithio ac yn gwersylla mewn dinasoedd.

Mae’r ymgyrchoedd, a ddechreuodd ychydig tros bythefnos yn ôl, wedi denu cefnogaeth o bob rhan ac wedi cynyddu ar ôl i 700 gael eu harestio ar Bont Brooklyn yn Efrog Newydd dros y Sul.

Bellach, mae gwersyll wedi ei sefydlu yn agos at Wall Street a’r Gyfnewidfa Stoc yn y ddinas ac mae protestiadau tebyg mewn dinasoedd fel Los Angeles, St Louis, Kansas a Chicago.

Dillad zombie

Ym Manhattan, roedd cannoedd o bobol yn gorymdeithio mewn siwtiau zombie ac yn cario arian ffug.

Mae’r protestiadau yn erbyn y ffordd y mae’r banciau wedi achosi’r argyfwng economaidd byd-eang gan achosi cyni ariannol i bobol gyffredin.

Mae rhai o’r protestwyr wedi cymharu’r ymgyrch i’r Gwanwyn Arabaidd mewn gwledydd fel yr Aifft ac mae’r gwersylloedd yn debyg i’r hyn a ddigwyddodd yng nghanol Cairo.