Mae cwpwl o Iran wedi cael eu harestio am ddyweddïo’n gyhoeddus, ar ôl i fideo o’r digwyddiad gael ei bostio ar y we.

 Roedd y fideo yn dangos dyn yn sefyll o fewn blodau ar siâp calon, ac yn dal balŵns mewn canolfan siopa yn ninas Arak.

 Yn ôl yr heddlu, roedd y digwyddiad yn mynd yn groes i arferion ymddygiad cyhoeddus Mwslimiaid, ac mae’n annerbyniol eu bod nhw wedi gweithredu yn ôl “yr hyn sy’n gyffredin mewn rhannau eraill o’r byd”.

 Cawson nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.

 Dydy enwau’r cwpwl ddim wedi cael eu cyhoeddi.