Mae lle i gredu bod 157 o bobol, gan gynnwys wyth aelod o staff, wedi’u lladd pan blymiodd awyren o Ethiopia i’r ddaear ar ei ffordd i Nairobi, prifddinas Cenia.
Roedd pobol o fwy na 30 o wledydd ar yr awyren, meddai’r awdurdodau.
Roedd nifer o bobol o wledydd Prydain yn eu plith.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd wedi achosi’r digwyddiad.
Plymiodd yr awyren i’r ddaear chwe munud ar ôl dechrau’r daith o Addis Ababa.