Mae Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi dweud mewn araith oedd wedi para dros ddwy awr fod y Democratiaid yn “hunllef sosialaidd”.

Mae’r Democratiaid yn craffu’n fanylach yn ddiweddar ar weithgarwch yr arlywydd.

Ond mae’n darogan y bydd yn cael ei ail-ethol gyda mwyafrif mwy nag a gafodd y tro cyntaf yn 2016.

Dywedodd wrth y gynhadledd Gweithgarwch Gwleidyddol Ceidwadol nad yw’n cael digon o “glod” am yr hyn mae e’n ei gyflawni.

Wythnos gythryblus

Ond fe fu’n wythnos gythryblus i Donald Trump yn dilyn trafodaethau aflwyddiannus ynghylch dadniwcleareiddio Gogledd Corea.

Daeth y trafodaethau gyda Kim Jong Un i ben yn Fietnam heb gytundeb.

Yn gynharach yn yr wythnos, fe fu Michael Cohen, ei gyn-gyfreithiwr yn lladd ar ei gymeriad a’i arferion busnes, ac mae’r Gyngres yn parhau i wrthod derbyn ei ddatganiad o argyfwng fel y gall gael arian i godi’r wal ddadleuol rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico.

Araith danllyd

Serch hynny, fe ddywedodd yn ei araith na fydd “America fyth yn wlad sosialaidd”.

“Nid mater o’r amgylchedd, na chyfiawnder na rhinweddau yw sosialaeth.

Mae’n fater o “rym i’r dosbarth sy’n rheoli”, meddai.

Ond roedd e ar ei orau, meddai, “wrth fynd oddi ar y sgript”.

Ymhlith ei sylwadau byrfyfyr roedd beirniadaeth o Gytundeb Gwyrdd Newydd y Democratiaid.

“Dw i’n credu bod y Cytundeb Gwyrdd Newydd neu beth ddiawl maen nhw’n ei alw fe – dw i’n ei annog e,” meddai â’i dafod yn ei foch.

“Dw i wir yn credu ei fod yn rhywbeth y dylen nhw ei hyrwyddo.

“Maen nhw’n gweithio’n galed arno fe… Dim awyrennau, dim ynni.

“Pan fo’r gwynt yn stopio chwythu, dyna ddiwedd eich trydan chi.

“Gadewch i ni frysio. Cariad, ydy’r gwynt yn chwythu heddiw? Hoffwn i wylio’r teledu, cariad.”

Lladd ar y darpar ymgeisydd arlywyddol Democrataidd

Roedd ei araith yn cynnwys ymosodiadau personol ar adegau hefyd, wrth iddo feirniadu’r Seneddwr Elizabeth Warren, un o’r ffefrynnau i fod yn ymgeisydd arlywyddol nesa’r Democratiaid.

“Dw i’n mynd i ddifaru hyn,” meddai, cyn mynd yn ei flaen.

“Dylid fod wedi traddodi’r araith hon ymhen blwyddyn i nawr, nid nawr, damia.

“Dylwn i fod wedi cadw’r peth Pocahontas am flwyddyn arall oherwydd fe ddinistriodd hynny ei gyrfa wleidyddol, a nawr fydda i ddim yn cael cyfle i redeg yn ei herbyn hi,” meddai am y cyhuddiad a wnaeth yn ei herbyn nad yw hi o dras Americanaidd frodorol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill roedd ei feirniadaeth o Jerome Powell, cadeirydd y Gronfa Ffederal, a’i amddiffyniad o’r datganiad o argyfwng yn yr Unol Daleithiau er mwyn sicrhau gwerth 1.4bn o ddoleri ar gyfer ei wal rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico.