Mae Iran wedi beirniadu Llywodraeth Prydain am wahardd y mudiad Hezbollah.

Mae’n drosedd bellach i fod yn aelod neu i gefnogi’r mudiad o Libanus, a gallai unrhyw un sy’n torri’r gyfraith dreulio hyd at ddeng mlynedd yn y carchar.

Cyn hyn, dim ond bod yn aelod o adain filwrol y mudiad oedd yn anghyfreithlon.

Mae swyddfa dramor Iran yn dweud bod y camau’n “anghyfrifol”, gan fod Hezbollah yn helpu i ddileu brawychiaeth yn Libanus.

Mae pryderon y gallai ymdrin â’r sefyllfa yn y modd anghywir gynyddu’r tensiynau yn y wlad, a’i fod yn mynd yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o drigolion Libanus.