Mae criw o brotestwyr y festiau melyn, sy’n gwrthwynebu polisïau economaidd llywodraeth Ffrainc, yn protestio am yr unfed penwythnos ar bymtheg yn olynol.

Maen nhw ar strydoedd Paris a nifer o ddinasoedd eraill i ddangos eu dicter tuag at yr Arlywydd Emmanuel Macron a’i lywodraeth sydd, meddai’r criw, yn ffafrio pobol gyfoethog.

Mae pobol wedi ymgynnull ger yr Arc de Triomphe yn Paris ar gyfer gorymdaith i nifer o ardaloedd cyfoethog y brifddinas.

Mae Emmanuel Macron yn dweud bod y protestiadau, a ddechreuodd ym mis Tachwedd, yn “annerbyniol”.

Mae’r Arlywydd wedi galw am “ddadl fawr” dros gyfnod o ddeufis er mwyn ceisio tawelu ofnau’r protestwyr.