Mae mwy na 50 o bobol ar goll ar ôl i biblinell nwy ffrwydro yn ne Nigeria.

Cafodd nifer fawr o bobol eu sathru wrth i drigolion yn nhalaith Bayelsa geisio ffoi rhag nwy yn gollwng.

Agip, Oando a Shell sy’n berchen y biblinell, sy’n cludo nwy i Bonny.

Does neb wedi gwneud sylw am y digwyddiad hyd yn hyn, a dydy hi ddim yn glir a yw’r biblinell wedi’i chau am y tro.

Yn ôl arbenigwyr, difrod, dwyn a phuro olew anghyfreithlon sydd fel arfer yn arwain at achosion o nwy yn llifo.