Mae tri gwystl wedi cael eu lladd ar ôl i luoedd diogelwch Irac gynnal cyrch ar swyddfa heddlu oedd wedi ei feddiannu gan ddynion arfog.

Mae swyddogion ym myddin diogelwch Irac, sydd wedi eu lleoli yn nhalaith Anbar, hefyd wedi cadarnhau’r newyddion fod tri gwystl wedi cael eu lladd yn y digwyddiad, ynghyd â phob un o’r dynion arfog.

Roedd y dynion arfog wedi eu gwisgo fel swyddogion heddlu wrth iddyn nhw gerdded i mewn i’r swyddfa yn nhref al-Baghdadi yng ngorllewin Irac, cyn dal heddweision â phobol gyffredin yn wystlon yn y swyddfa.