Mae cyfreithiwr y canwr hip hop, R Kelly, wedi cyflwyno ple ‘ddieuog’ ar ei ran, wedi i’r cerddor gael ei gyhuddo o nifer o droseddau’n ymwneud â cham-drin rhywiol yn Chicago.

Fe gafodd R Kelly ei arestio ddydd Gwener diwethaf (Chwefror 22) ar amheuaeth o ddeg trosedd yn ymwnueud â cham-drin yn erbyn pedwar dioddefwr – a thair o’r rheiny dan oed.

Mae R Kelly wedi’i ryddhau ar fechnïaeth o filiwn o ddoleri (£765,000). Un o amodau ei fechnïaeth yw ei fod yn cadw draw rhag merched iau na 18 0ed.

Mae disgwyl iddo ymddangos nesaf gerbron y llys ar Fawrth 22.