Mae ymdrechion ar y gweill yn Feneswela i atal cymorth dyngarol rhag cyrraedd y wlad.

Fe fu milwyr sy’n deyrngar i’r Arlywydd Nicolas Maduro yn atal cerbydau Americanaidd ger y ffin, gan ddefnyddio nwy ddagrau i dawelu’r dorf.

Bu farw dau o bobol yn y digwyddiad, a chafodd oddeutu 300 o bobol eu hanafu.

Mae disgwyl i Juan Guaido, arweinydd yr wrthblaid, gyfarfod â Mike Pence, dirprwy arlywydd yr Unol Daleithiau, ddydd Llun wrth i wledydd De America gynnal cyfarfod brys i drafod y sefyllfa.

Torri perthynas ddiplomyddol

Yn y cyfamser, mae Nicolas Maduro wedi torri perthynas ddiplomyddol gydag arweinydd Colombia, gan gyhuddo’r llywodraeth “ffasgaidd” o helpu’r Unol Daleithiau i geisio ei symud o’i swydd ac o geisio achosi ymyrraeth gan y lluoedd arfog.

“Does gen i ddim amynedd bellach,” meddai Nicolas Maduro mewn rali yn Caracas, gan ychwanegu fod gan ddiplomyddion Colombia 24 awr i adael Feneswela.

Mae gan Juan Guaido gefnogaeth nifer o wledydd ar ôl iddo ddatgan mai ef, ac nid Nicolas Maduro, yw arlywydd go iawn Feneswela.