Mae’r Pab Ffransis wedi addo brwydro “gyda digofaint Duw” yn erbyn offeiriaid sy’n cam-drin plant.

Mae’n addo rhoi terfyn ar ymdrechion i gelu achosion o’r fath o fewn yr Eglwys Gatholig, a blaenoriaethu helpu dioddefwyr “y drwg cras, ymosodol a dinistriol hwn”.

Daw ei sylwadau wrth i 190 o esgobion ac uwch swyddogion yr Eglwys Gatholig gyfarfod yn Rhufain.

Fe ddywedodd mewn anerchiad fod y rhan fwyaf o achosion o gam-drin yn digwydd o fewn y teulu, ac fe wnaeth e sylwadau hefyd am y diwydiant rhyw ymhlith twristiaid a phornograffi ar y we.

Dywed fod cam-drin plant o fewn yr Eglwys Gatholig “yn hollol anghymarus â’i hawdurdod moesol a’i hygrededd moesegol”.

‘Dirgelwch drwg’

“Rhaid i ni gydnabod gyda gostyngeiddrwydd a dewrder ein bod yn sefyll wyneb yn wyneb â dirgelwch drwg sy’n taro mor dreisgar yn erbyn y rhai mwyaf diniwed, gan eu bod yn nelwedd yr Iesu,” meddai’r Pab.

Mae’n dweud bod yr helynt yn broblem nid yn unig mewn rhai gwledydd ond yn yr Eglwys Gatholig ar y cyfan.

“Frodyr a chwiorydd, heddiw fe gawn ein hunain gerbron ymddangosiad drwg cras, ymosodol a dinistriol,” meddai.

Amlinellodd e wyth o flaenoriaethau, gan alw am newid yn agwedd yr Eglwys Gatholig at achosion o gam-drin plant a chelu gwybodaeth.