Mae math o grwban na chafodd ei weld ers mwy na 110 mlynedd wedi cael ei ganfod ar un o ynysoedd y Galapagos.

Yn ôl llywodraeth Ecwador, cafodd y Chelonoidis phantasticus ei ganfod gan swyddogion o wahanol asiantaethau gwarchodaeth wrth iddyn nhw gynnal taith ar ynys Fernandina.

Maen nhw hefyd yn credu bod rhagor o’r math arbennig o grwban yn byw ar yr ynys ar ôl iddyn nhw ddod ar draws olion.

Mae’r crwban a gafodd ei ganfod bellach wedi cael ei gludo i ganolfan fridio ar gyfer crwbanod mawr ar ynys Santa Cruz, lle bydd yn cael ei gadw mewn lloc arbennig.

Yn ôl yr Undeb Genedlaethol tros Warchod Natur, mae’r Chelonoidis phantasticus wedi’i gofnodi ar restr yr anifeiliaid sydd naill ai’n brin neu wedi diflannu.

Cafodd ei weld am y tro diwethaf yn 1906.