Gall Amanda Knox fynd yn rhydd heddiw os yw’r llys yn yr Eidal yn penderfynu nad hi a laddodd y fyfyrwraig o Brydain, Meredith Kercher.

Cafodd y ferch o’r Unol Daleithiau ei charcharu am 26 mlynedd  am ladd y fyfyrwraig  yn yr hyn mae erlynwyr yn ei alw’n ‘gêm rhywiol wedi mynd i’r eithafion’.

Ond mae Amanda Knox yn mynnu nad oedd ganddi unrhyw ran yn llofruddiaeth treisgar Meredith Kercher, ac mae hi wedi bod yn apelio yn erbyn y dyfarniad ers 11 mis.

Bydd canlyniadau’r apêl hwnnw’n cael eu cyhoeddi heddiw, wrth i’r barnwyr a’r rheithgor  ystyried a ddylai Amanda Knox gael dyfarniad dieuog, a ddylid cynnal y dyfarniad gwreiddiol, neu hyd yn oed cynyddu’r cyfnod carchar iddi.

Cafodd Amanda Knox, 24, ei dyfarnu’n euog wedi blwyddyn o achos yn 2009. Cafwyd ei chyn-gariad o’r Eidal, Raffaele Sollecito, 27, hefyd yn euog olofruddaieth, ac  mae yntau hefyd wedi apelio yn erbyn y dyfarniad.

Cafodd trydydd person, y deliwr cyffuriau Rudy Guede, ei ddyfarnu’n euog am ran yn y llofruddiaeth mewn achos ar wahan yn 2009, ond mae cyfreithwyr Amanda Knox a Raffaele Sollecito yn mynnu ei fod wedi cyflawni’r drosedd ar ei ben ei hun.

Mae erlynwyr yn mynnu bod y tri wedi gweithredu gyda’i gilydd.

Cyn i’r rheithgor fynd i benderfynnu, mae disgwyl i’r cyn-gariadon annerch y llys yn Perugia, lle cafodd Meredith Kercher ei lladd.

Yr annerchiadau hyn fydd cyfle olaf y ddau i berswadio aelodau’r rheithgor eu bod yn ddieuog, ac mae’n debyg bod Amanda Knox wedi bod yn gweithio ar ei hannerchiad ers tri mis.

‘Cymeriad’ Knox yn cael sylw

Tra bod y sïon yn drwch am gwmniau teledu yn cwffio am gyfweliad cyntaf Amanda Knox os caiff hi ei rhyddhau, mae dyfarniad di-euog yn bell iawn o afael yr Americanes ar hyn o bryd.

Mae erlynwyr wedi gweithio’n ddi-flino i gadw’r fyfyrwraig o’r Unol Dalaethau dan glo, ac mae diwrnodau ola’r apêl wedi gweld nifer o ymosodiadau personol ar ei chymeriad – gan gynnwys cyfeiriadau at grefydd, rhyw a hil.

Ond mae teulu Meredith Kercher yn teimlo bod y ferch 21 oed wedi cael ei hanghofio bron yng nghanol yr holl ganolbwyntio sydd ar Amanda Knox.

Mewn cyfweliad ar deledu’r Eidal, dywedodd Stephanie Kercher fod ei chwaer “bron wedi mynd yn anghof yn ystod y bedair mlynedd ddiwethaf. Ond mae’n rhaid i ni gael cyfiawnder iddi, mae’n rhaid i ni gael at y gwir er ei mwyn hi.”

Mae disgwyl i Stephanie Kercher, ei mam Arline, a’i brawd Lyle, fynd i’r llys i glwyed y dyfarniad heddiw.

Roedd Meredith Kercher, 21, yn fyfyrwraig ar flwyddyn dramor o Brifysgol Leeds pan gafodd ei lladd. Cafodd ei chorff ei ddarganfod ar 2 Tachwedd, 2007, yn ei hystafell wely yn y bwthyn yn Perugia yr oedd hi’n ei rannu ag Amanda Knox.

Os bydd yr apêl heddiw yn aflwyddiannus, mae tad Amanda Knox, Curt, wedi dweud mai’r cam nesaf fydd mynd â’i hachos at Uchel Lys yr Eidal.