Mae cwymp eira yn ardal sgïo Crans-Montana wedi claddu “sawl person” ac mae timau achub wedi cael eu galw.

Yn ôl heddlu rhanbarthol Valais, fe ddigwyddodd y cwymp ger copa mynydd Plaine Morte.

Dywedodd rheolwr bwyty cyfagos, Michele Vizzino, ei fod wedi clywed sŵn y cwymp – a ‘i fod wedi gweld hofrenyddion yn mynd yno.

Yn ôl yntau, dim ond “ôl bach” mae’r cwymp wedi ei adael.

Mae’n dweud hefyd fod cwympon eira o’r fath yn brin yn yr ardal sy’n adnabyddus am ei sgïo.

Nid yw’r heddlu yn gwybod os mai sgiwyr yw’r rhai gafodd eu claddu o dan yr eira.