Mae California a 15 o daleithiau eraill yn yr Unol Daleithiau yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr arlywydd Donald Trump.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad yr arlywydd i gyhoeddi argyfwng cenedlaethol er mwyn cael at arian i dalu am wal ar hyd ffin y wlad â Mecsico.

Mae Twrnai Cyffredinol Califfornia, Xavier Bacerra, wedi dweud fod gweithredoedd Donald Trump yn mynd yn groes i gyfansoddiad yr Unol Daleithiau. “Mae’r Arlywydd Trump yn trin y gyfraith â dirmyg llwyr,” meddai.

“Mae’n gwybod nad oes argyfwng ar y ffin, mae’n gwybod bod ei ddatganiad brys yn ddiamod, ac mae’n cyfaddef y bydd yn debygol o golli’r achos hwn yn y llys.”

Mae twrneiod cyffredinol yn nhaleithiau Colorado, Connecticut, Delaware, Hawaii, Illinois, Maine, Maryland, Michigan, Minnestoa, Nevada, New Jersey, New Mexico, Efrog Newydd, Oregon, a Virginia yn sefyll ysgwydd ag ysgwydd gyda Califfornia.