Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi sicrhau cytundeb ar lefelau llygredd o lorïau, gan anelu i leihau eu hallyriadau carbon deuocsid.

Y targed yw gostwng yr allyriadau o 30% o’r lefelau presennol erbyn 2030.

Mae lorïau trwm yn cludo dau draean o nwyddau’r cyfandir, a’r bwriad yw i “daclo allyriadau, ar ben dod ac arbedion tanwydd i weithredwyr cludiant a chreu awyr glanach i bobol Ewrop,” meddai comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd, Arias Canete.

O dan y cytundeb sy’n cael ei greu heddiw (Dydd Mawrth, Chwefror 19), bydd rhaid i allyriadau lorïau fod lawr 15% erbyn 2025, a 30% pum mlynedd wedyn.

Bydd dirwyon i’r rheiny sydd ddim yn dilyn y rheolau newydd.

Mae’r cam hwn yn rhan o gynllun yr Undeb Ewropeaidd i dorri ar allyriadau tai gwydr i ddim erbyn 2015, mewn ymgais i daclo cynhesu byd eang.

Yr Undeb Ewropeaidd yw’r unig economi mawr y byd i osod targed i geisio cyflawni niwtraliaeth yn yr hinsawdd yn y tair degawd nesaf.