Mae Pacistan wedi galw ar y Cenhedloedd Unedig i ymyrryd wrth i densiynau cynyddu rhwng y wlad ac India.

Daw yn dilyn ymosodiad bom yn ardal Kashmir, lle cafodd o leiaf 40 o filwyr India eu lladd – ymosodiad mwyaf ar luoedd Llywodraeth India yn hanes Kashmir.

Ar ddydd Llun (Chwefror 18) wedyn, bu farw pedwar milwr Indiaidd, tri gwrthryfelwyr a dau berson arall wrth i’r chwilio am y gwrthryfelwyr barhau.

Mae Llywodraeth India yn dweud mai Pacistan oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ac wedi addo “ymateb yn llym”.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Pacistan wedi galw eu llysgennad yn New Delhi yn ôl, wedi i lysgennad India adael Islamabad hefyd.

Mae India a Pacistan yn gyfrifol am weinyddu gwahanol rannau o Kashmir, ond mae’r ddwy wlad yn honni mai eu heiddo nhw yw’r rhanbarth cyfan.

Mae gwrthryfelwyr wedi bod yn brwydro yn erbyn yr awdurdodau Indiaidd ers 1989, gan alw ar y darn o’r rhanbarth sydd yn nwylo India i naill ai gael ei roi ym meddiant Pacistan neu ddod yn wlad annibynnol.