Mae o leiaf naw o bobol, gan gynnwys pedwar aelod o’r un teulu, wedi cael eu lladd yn dilyn tân yn Bangladesh.

Fe ddigwyddodd mewn hofel yn ninas Chittagong wrth i bobol gysgu.

Mae o leiaf 200 o gartrefi wedi cael eu dinistrio.

Mae ymchwiliad ar y gweill.