Muammar Gaddafi
Cafodd dau blentyn a’u rhieni eu saethu’n farw wrth geisio ffoi o ddinas Sirte ynghyd â channoedd o bobol eraill, yn ystod gwrthdaro rhwng lluoedd sy’n deyrngar i lywodraeth Muammar Gaddafi a lluoedd gwrthryfelgar ar gyrrion y ddinas.
Cafodd eu cyrff eu cludo i ysbyty dros dro tu allan i Sirte, yn ôl y meddyg Nuri Naari. Fe gawson nhw eu saethu tra’n gyrru tuag at y lluoedd gwrthryfelgar, ond dyw hi ddim yn glir pwy oedd wedi eu lladd.
Ymladd ffyrnig
Mae Sirte yn un o’r dinasoedd olaf i fod yn nwylo’r teyrngarwyr.
Roedd lluoedd gwrthryfelgar wedi dweud wrth deuluoedd yn byw yn Sirte i adael o fewn deuddydd er mwyn iddyn nhw osgoi’r ymladd. Roedd cannoedd o geir wedi dechrau ciwio er mwyn gadael y ddinas, lle mae’r ddwy ochr wedi bod yn ymladd yn ffyrnig.