Mae pryderon fod mudiad y festiau melyn, sy’n nodi tri mis o brotestiadau heddiw (dydd Sul, Chwefror 17), yn troi’n wrth-Semitaidd.

Maen nhw’n protestio yn erbyn llywodraeth Emmanuel Macron, ond yn ystod y protestiadau diweddaraf, cafodd nifer o sylwadau gwrth-Semitaidd eu clywed.

Mae disgwyl iddyn nhw orymdeithio heddiw o’r Arc de Triomphe yn y brifddinas Paris, un o nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal mewn sawl dinas ar draws y wlad.

Fe fu’r mudiad yn cynnal protest bob penwythnos ers Tachwedd 17.

Bu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio canonau, nwy ddagrau a cheffylau i dawelu’r brotest ddiweddaraf ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 16).

Mae sylwadau gwrth-Semitaidd y protestwyr wedi cael eu beirniadu gan Emmanuel Macron.