Yng Ngwlad Groeg mae’r cabinet yn cwrdd heddiw i gwblhau cynlluniau i gael gwared â 30,000 o weithwyr yn y gwasanaeth sifil erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywed y Llywodraeth bod drafft terfynol y gyllideb ar gyfer 2012 hefyd ar yr agenda.

Mae’n dilyn tridiau o drafodaethau gyda chredydwyr gwlad Groeg sef y Comisiwn Ewropeaidd, Banc Canolog Ewrop a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol.

Yn ôl Gweinidog Cyllid Gwlad Groeg Evangelos Venizelos, mae’r wlad yn gwneud popeth yn ei gallu i gadw at delerau’r pecyn gwerth £94biliwn i achub y wlad.