Mae o leiaf 10 o filwyr India wedi cael eu lladd, ynghŷd â 35 wedi eu hanafu, mewn ymosodiad bom car yn rhanbarth Kashmir yng ngogledd India.

Fe ddigwyddodd wrth i gonfoi’r fyddin gyrraedd Pampore, ar gyrion dinas Srinagar, yn ôl uwch swyddog yr heddlu, Muneer Ahmen Khan.

Dywedodd bod bws wedi cael ei chwalu a bod o leiaf pump o gerbyd eraill wedi cael eu difrodi gan y ffrwydrad.

Mae’r awdurdodau wedi beio’r rebeliaid, sy’n ymladd yn erbyn rheolaeth India, am yr ymosodiad.

Mae India a Phacistan yr un yn honni mai hwythau sydd â hawl i’r tir, ac mae’r rebeliaid wedi bod yn cwffio yn erbyn rheolaeth India ers 1989.

Yn ôl llawer o bobol Kashmir, dylai’r rhanbarth fod o dan reolaeth Pacistan, neu yn wlad annibynnol.

Mae tua 70,000 o bobol wedi cael eu lladd yn y gwrthryfel.