Gallai llywodraeth Sbaen alw etholiad cyffredinol cynnar ar ôl i’w chynllun gwario gael ei wrthod gan y pleidiau eraill.
Ymhlith y rhai sy’n gwrthwynebu cynllun Pedro Sanchez, y prif weinidog, mae’r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.
Cafodd chwech o wrthwynebiadau eu cyflwyno, ac fe gawson nhw eu cefnogi gan 191 o wleidyddion allan o 350.
Catalwnia
Roedd pleidiau annibyniaeth Catalwnia’n gwrthod cefnogi’r cynllun oni bai bod y llywodraeth yn fodlon dechrau trafod mater annibyniaeth.
Ond mae’r llywodraeth yn mynnu o hyd fod ceisio am annibyniaeth yn mynd yn groes i Gyfansoddiad Sbaen.
Cafodd Pedro Sanchez ei ethol yn brif weinidog y llynedd yn dilyn ffrae rhwng y pleidiau annibyniaeth a’i ragflaenydd Mariano Rajoy, wrth iddyn nhw uno i gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn.