Mae protestwyr wedi rhwystro ffyrdd yn Catalwnia ar gychwyn achos llys yn erbyn eu harweinwyr gwleidyddol yng ngoruchaf lys Sbaen yn Madrid.

Mae 12 o ddiffynyddion yn cael eu herlyn am eu rhan wrth wneud datganiad annibyniaeth ar sail canlyniad refferendwm a oedd yn groes i waharddiad cyfansoddiadol arno gan lywodraeth Sbaen.

Mae naw ohonyn nhw – sy’n cynnwys cyn-is arlywydd Catalwnia, Oriol Junqueras a chyn-lefarydd y senedd, Carme Forcadel – yn wynebu cyhoeddiadau o wrthryfela, a all olygu dedfrydau o hyd at 25 mlynedd mewn carchar. Mae’r cyhuddiadau eraill yn cynnwys annog gwrthryfel a chamddefnyddio cyllid cyhoeddus.

Mae’r achos yn cael ei ystyried fel yr un mwyaf arwyddocaol yn wleidyddol yn hanes Sbaen ers marwolaeth y Cadfridog Franco yn 1975.

Yn ôl Americanes sy’n byw yn Catalwnia ac sy’n ymgyrchydd brwd tros annibyniaeth, fodd bynnag, dyw’r achos llys yn ddim byd ond “ffars lwyr” iddi hi.

“Maen nhw [y gwleidyddion] o flaen eu gwell ar gyhuddiadau sy’n ymwneud â gwrthryfela, a hynny am gynnal refferendwm!” meddai Lis Castro wrth golwg360.

“Maen nhw eisiau gwneud yn siŵr nad yw pobol yn codi llais ac yn ofni protestio, yn ofni cynnal refferendwm ac yn ofni pleidleisio.”

Wrth grynhoi’r teimlad yng Nghatalwnia ar hyn o bryd, dywed Lis Castro fod pethau wedi “tawelu” yn y rhanbarth yn ystod y misoedd diwethaf, wrth i bobol “aros” i weld beth fydd yn digwydd nesaf.

“Mae’r rhan fwyaf o’n harweinwyr gwleidyddol yn y carchar yn Madrid, ac mae yna hanner dwsin arall yn alltudion,” meddai wedyn.

“Mae’n anodd iawn iddyn nhw gyfathrebu â’i gilydd ac i gyfathrebu gyda gweddill y bobol.

“Does dim llawer o undod nac arweiniad ar hyn o bryd.”

Cefndir yr achos

Mae’r cyhuddiadau’n deillio o hydref 2017 pan benderfynodd cenedlaetholwyr Catalwnia fwrw ymlaen â refferendwm annibyniaeth a oedd wedi’i wahardd, a dioddef ymosodiadau treisgar gan yr heddlu wrth geisio’i rwystro.

Fe wnaeth ddeddfwyr Catalwnia gyhoeddi buddugoliaeth a datganiad annibyniaeth 26 diwrnod yn ddiweddarach, ond chawson nhw ddim cydnabyddiaeth ryngwladol.

Mae’r achos yn cael ei ddarlledu’n fyw ar y teledu ac mae disgwyl iddo barhau am dri mis.

Mae disgwyl i gannoedd o dystion gael eu galw, yn eu plith cyn-brif weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, maer Barcelon, Ada Colau, cyn-arlywydd Catalwnia Artur Mas a llefarydd presennol senedd Catalwnia, Roger Torrent.

Mae’r llys wedi dyfarnu na fydd Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia a arweiniodd y cyrch am annibyniaeth cyn ffoi i alltudiaeth gwirfoddol yng Ngwlad Belg, yn cael cyflwyno tystiolaeth trwy gyswllt fideo.

Fe fydd tystion eraill yn cynnwys rhai o bleidleiswyr Catalwnia a phlismyn Sbaen a gafodd eu hanafu ar ddiwrnod y refferendwm.