Mae un o ddynion camera’r BBC wedi dioddef ymosodiad ‘anhygoel o dreisgar’ yn ystod araith gan arlywydd America, Donald Trump.
Dywedodd gohebydd Washington y BBC, Gary O’Donoghue, fod ei gydweithiwr Ron Skeans yn ffilmio mewn rali yn El Paso, Texas, pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Roedd un o gefnogwyr Donald Trump wedi mynd ar y llwyfan a gwthio’r camera ar Ron Skeans a dal ati i’w wthio wedyn.
“Roedd yn ymosodiad anhygoel o dreisgar,” meddai Gary O’Donoghue. “Wrth lwc, nid yw ddim gwaeth, gan ei fod yn ddyn cryf.
“Mae hyn yn un o nodweddion y ralïau hyn – annog y torfeydd yn erbyn y cyfryngau.
“Dw i wedi gweld pethau fel hyn o’r blaen ac maen nhw’n ffiaidd tuag at gydweithwyr Americanaidd yn arbennig.”