Mae tua 3,000 o bobol a oedd wedi gorfod ffoi rhag tanau gwyllt yn Seland Newydd wedi cael dychwelyd adref wrth i’r amodau wella.

Ond mae 400 o drigolion eraill sy’n byw yn y cymoedd sy’n agos at y tanau wedi cael cyngor i aros draw.

Yn ôl diffoddwyr tan maen nhw wedi llwyddo i ddod a’r tanau o dan reolaeth oherwydd bod yr amodau tywydd yn fwy ffafriol. Mae Awstralia a Seland Newydd wedi cael haf sych a phoeth iawn.

Fe ddechreuodd y tanau mewn coedwig bron i wythnos yn ôl yn South Island ac mae wedi llosgi tua 2,300 hectar. Cafodd un tŷ ei ddifrodi’n llwyr gan arwain at rybudd i drigolion eraill i adael eu cartrefi.

Fe fu tua 190 o ddiffoddwyr tan, 10 hofrennydd a dwy awyren yn ceisio brwydro’r tân.