Mae tân wedi lledu ar draws safle ymarfer clwb pêl-droed Flamengo, un o glybiau mwyaf Brasil, gan ladd 10 o bobol ac anafu tri yn eu harddegau.

Cafodd criwiau tân eu galw ychydig wedi 5yb ddoe (Dydd Gwener, Chwefror 8), i’r safle yng Ngorllewin dinas Rio de Janeiro.

Does dim gwybodaeth ynghylch beth oedd wedi achosi’r tân ar hyn o bryd.

Nid oes gwybodaeth ychwaith ynglŷn ag enwau nag oedran y rhai cafodd eu lladd – ond 14, 15, ac 16 oed oedd y rhai a gafodd eu hanafu

Er hynny, fe gadarnhaodd Beratriz Busch, ysgrifennydd iechyd cyhoeddus Rio de Janeiro, bod y rhai a fu farw “yn athletwyr.”

Yn ôl y cyfryngau lleol, roedd y tân wedi cydio mewn ystafell ble mae chwaraewyr y tîm ieuenctid yn cysgu, ond nid os modd cadarnhau hynny ar hyn o bryd.

Mae gan glwb Flamengo raglen datblygu ieuenctid i chwaraewyr talentog yn eu harddegau cynnar ac mae llawer o’r chwaraewyr hyn cael llety ar y safle wrth ymarfer.

Mae’n un o glybiau enwocaf Brasil, gydag o gwmpas 40 miliwn o gefnogwyr ar draws byd.