Mae comisiynydd hawliau dynol Cyngor Ewrop yn “pryderu’n fawr” am y ffordd mae ffoaduriaid yn cael eu trin ar dir a mor gan Yr Eidal.

Dywed y comisiynydd Dunka Mijatovic ei bod hi’n ceisio cael eglurhad gan lywodraeth y wlad am eu cyfraith ddiweddar i symud a gwagio canolfannau croesawu ymfudwyr.

Ychwanegodd ei bod hi’n difaru’r brys amlwg oedd i’w weld wrth i’r canolfannau hyn cael eu gwagio.

Mae hi hefyd wedi pwyntio at yr “adroddiadau anghysurus” bod rhai ymfudwyr sy’n disgwyl cael eu gwarchod yn cael eu gwneud yn ddigartref o ganlyniad i’r gyfraith newydd sy’n cyfyngu ar eu hawliau.

“Rwy’n eich annog i sicrhau na fydd hawliau dynol pobol a achubwyd o’r môr byth yn cael eu peryglu,” meddai.