Mae sawl adeilad wedi cael eu difrodi yn San Francisco yn dilyn ffrwydrad tanllyd.

Bu’n rhaid gwagio tai a swyddfeydd yn y ddinas – sydd ar arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau – wrth i fflamau neisio i’r awyr uwchben adeiladau tri llawr.

Dechreuodd y tân pan darfodd adeiladwyr ar bibell nwy, ac mi gymerodd dair awr i’w ddiffodd.

Yn wreiddiol, roedd awdurdodau yn pryderu bod pum adeiladwr ar goll, ond daeth i’r amlwg yn y pen draw bod neb ar goll, a bod neb wedi cael eu hanafu.

Cwmni Pacific Gas & Electric sydd yn berchen ar y bibell nwy a gafodd ei ddifrodi, ac yn 2010 gwnaeth un o’u pibellau ffrwydro yn ne San Francisco gan ladd wyth o bobol.