Mae lluoedd Libya yn honni eu bod nhw bellach yn rheoli maes olew de’r wlad, yn ogystal â thiroedd y dwyrain lle mae eu cadarnle.

Fe ddaw’r datblygiad diweddara’ fel rhan o ymgyrch y cadfridog Khalifa Hifter i ennill rheolaeth o brif ffynhonnell incwm Libya.

Mae’n honni hefyd fod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiant oherwydd iddi gael cefnogaeth y llwythau lleol.

Mae Libya yn cael ei rheoli gan awdurdodau gwahanol yn Tripoli ar y naill law, ac yn y dwyrain. Mae’r ddwy ochr yn hawlio cefnogaeth gwrthryfelwyr arfog.

Mae Khalifa Hifter yn arwain y garfan yn nwyrain y wlad.