Mae llys yng ngorllewin Rwsia wedi dedfrydu tyst Jehofa i chwe blynedd o garchar.

Yn ôl y llys yn Oryol, roedd Dennis Christensen o Ddenmarc a oedd yn arwain sesiynau darllen y Beibl – yn euog o eithafiaeth.

Ef yw’r Tyst Jehofa cyntaf erioed yn Rwsia i’w gael ei garcharu yno.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r wlad wedi defnyddio termau amwys ei chyfreithiau eithafiaeth i dargedu anghydfodau gwleidyddol a lleiafrifoedd crefyddol.

Cafodd crefydd Tyst Jehofa ei wahardd yn 2017 wrth gael ei ddatgan yn sefydliad eithafol.

Mae bron i 100 o aelodau’r grŵp yn wynebu cyhuddiadau yn Rwsia, ac mae dros 20 ohonynt yn y carchar yn disgwyl gwrandawiad.

Doedd gan lefarydd yr arlywydd Vladimir Putin, Dmitry Peskov, ddim byd i’w ddweud ynglŷn â’r ddedfryd.