Mae disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau ymweld â gwledydd Prydain ym mis Rhagfyr wrth i gynhadledd NATO gael ei chynnal yn Llundain.

Bu protestio mawr yn ystod taith ddiwethaf Donald Trump i wledydd Prydain ym mis Gorffennaf y llynedd, pan dreuliodd dim ond un noson yn Llundain ei hun.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, Jens Stoltenberg, fe fydd y gynhadledd ar ddiwedd y flwyddyn yn gyfle i arweinwyr gwleidyddol “drafod yr heriau diogelwch sydd yn ein wynebu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol…”

Daw’r gynhadledd wrth i’r corff rhyngwladol ddynodi 70 mlynedd o fodolaeth. Cafodd pencadlys cyntaf NATO ei sefydlu yn 13 Sgwâr Belgrave, Llundain, yn 1949, cyn symud i Paris yn 1952 ac yna i Frwsel yn 1967.