Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi galw ar ei gyd-wleidyddion i wrthod “gwleidyddiaeth o ddial a gwrthwynebu” wrth iddo annerch Cyngres ranedig.

Yn ei araith ar gyflwr yr Undeb, fe ddatganodd Donald Trump ei bod hi’n bryd i’r pleidiau gydweithio er mwyn “ffurfio syniadau newydd” er budd dyfodol y wlad.

Wrth sôn am hyn, fe rybuddiodd y Democratiaid y gall cynnal ymchwiliadau “chwerthinllyd” i’w weinyddiaeth a’i fusnes fod yn niweidiol i’r economi.

Fe gyfeiriodd hefyd at y cynllun i adeiladu wal rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico, gan apelio ar aelodau o’r Gyngres i “amddiffyn ein ffin deheuol beryglus”.

Bu tipyn o sôn am faterion tramor wedyn, gyda’r Arlywydd yn amlinellu manylion ar gyfer yr ail gynhadledd rhyngddo ac arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-un.

Fe wnaeth y ddau gyfarfod am y tro cyntaf yn Singapore y llynedd, ac mae disgwyl i’r ail gyfarfod gael ei gynnal yn Fietnam rhwng Chwefror 27 a 28.

Roedd Donald Trump hefyd yn amddiffynnol o’i benderfyniad i dynnu milwyr yr Unol Daleithiau allan o Syria ac Affganistan, gan ddweud nad yw “cenhedloedd da” yn ymladd “rhyfeloedd diddiwedd”

Er hyn, fe ychwanegodd fod yr Unol Daleithiau yn cydweithio â chynghreiriaid i “ddinistrio gweddillion” grŵp y Wladwriaeth Islamaidd, a’i fod eisoes wedi “cyflymu” ymdrechion er mwyn dod i ddatrysiad yn Affganistan.