Mae cyn-reolwr diweddar Manchester United, Jose Mourinho, wedi cael dedfryd wedi gohirio o flwyddyn ar ôl gwneud bargen yn y llys dros dwyll treth yn Sbaen.

Ni fydd yn gorfod treulio amser yn y carchar ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi twyllo awdurdodau’r wlad yn 2011 a 2012.

Fe ymddangosodd Jose Mourinho, sydd wedi hyfforddi Real Madrid a Chelsea hefyd, o flaen barnwr ym Madrid i gadarnhau ei fod wedi cyrraedd bargen gyda’r erlynwyr.

Fel rhan o’r fargen, mae’n rhaid iddo dalu ffein bron i £1.7m.

Cafodd Jose Mourinho, sy’n 56 oed o Bortiwgal, ei gyhuddo o dwyllo awdurdodau treth Sbaen o £2.8m oedd yn cynnwys pres yn gysylltiedig â hawliau delweddau.

Roedd o wedi ymddangos o flaen barnwr yn 2017 ac fe wadodd unrhyw gamymddwyn, gan ddweud ei fod wedi talu’n ôl popeth i’r awdurdodau.

Daw’r newyddion pythefnos yn unig ar ôl i gyn chwaraewr Real Madrid a Manchester United, Cristiano Ronaldo, bledio’n euog o’r un twyll pan oedd yn chwarae’n Sbaen.

Cafodd ymosodwr Portiwgal dedfryd wedi ei ohirio o ddwy flynedd a ffein werth bron i £16.7m.