Mae’r awdurdodau yn Sweden yn dweud eu bod nhw’n agos at ddod o hyd i drysorau teulu brenhinol y wlad, ar ôl iddyn nhw gael eu dwyn o gadeirlan y llynedd.

Mewn datganiad, dywed swyddogion fod tystiolaeth yn awgrymu bod y trysorau – sy’n dyddio’n ôl i 1611 – wedi dod i glawr yn Stockholm.

Maen nhw am gyhoeddi “mwy o fanylion” cyn bo hir, medden nhw, pan fydd y gwaith o gadarnhau’r trysorau wedi’i gwblhau.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i ddyn, 22, fynd o flaen ei well ym mis Gorffennaf wedi’i gyhuddo o ddwyn y ddwy goron a gemau eraill o Gadeirlan Strangnas.

Cafodd y trysorau eu creu ar gyfer angladd y Brenin Karl IX, ac mae’n debyg mai eu gwerth yw tua 65 kroner (£5.5m).