Mae o leiaf 21 o bobol, gan gynnwys 11 heddwas, wedi cael eu lladd yn ystod ymosodiad gan y Taliban yn Affganistan.

Yn ôl adroddiadau, bu’r ymosodiad ar ganolfan yr heddlu yn rhanbarth Baghlan yng ngogledd y wlad.

Daeth y newydd ar drothwy cyfarfod yn Mosgow rhwng cynrychiolwyr y Taliban a rhai ffigyrau blaenllaw o Affganistan, gan gynnwys cyn-Arlywydd y wlad, Hamid Karzai.

Nod y cyfarfod yw ceisio dod i ddatrysiad ynghylch y rhyfel yn Afghanistan, a gychwynnodd 17 mlynedd yn ôl.

Ond dyw’r digwyddiad ddim yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth yr Arlywydd presennol, Ashraf Ghani, sydd wedi beirniadu’r trafodaethau.