Mae cwmni Germania wedi gorfod galw ei awyrennau i’r ddaear ar ôl mynd i’r wal.

Mae’r cwmni hedfan o’r Almaen, sydd â mwy na 30 o awyrennau ac yn cario tua 4m o deithwyr y flwyddyn, wedi cyhoeddi bod ei weithgareddau yn dod i ben yn syth.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r cwmni, sydd wedi wynebu trafferthion ariannol ers dechrau’r flwyddyn, fethu â sicrhau cytundeb a fyddai wedi ei achub.

Mewn datganiad, mae’r cwmni’n cyfeirio at “gynnydd anferthol” mewn prisiau tanwydd yr haf diwethaf, dirywiad yr ewro yn erbyn y doler, yn ogystal â phroblemau cynnal a chadw, yn ffactorau tros y trafferthion diweddaraf.