Mae saith o bobol wedi’u lladd ac o leiaf 28 wedi’u hanafu yn dilyn tân mewn adeilad yn Paris.

Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth tân y ddinas yn Ffrainc, mae ymladdwyr yn dal i geisio diffodd y fflamau a chwilio am oroeswyr.

Mae’n debyg bod y tân wedi cynnau yn gynnar fore Mawrth (Chwefror 5), a hynny mewn adeilad wyth llawr sydd wedi’i leoli mewn ardal gyfoethog yng ngorllewin Paris.

Does dim gwybodaeth hyd yn hyn ynglŷn â beth achosodd y tân.

Mae’n debyg bod mwy na 200 o ymladdwyr tân a swyddogion y gwasanaethau brys yn bresennol ar y safle, ac mae pobol mewn adeiladau cyfagos wedi gorfod ffoi.