Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi amddiffyn Ralph Northam, llywodraethwr Virginia, wedi i lun hiliol yr oedd ganddo ran ynddo ddod i’r amlwg.

Fe fu’r Democratiaid yn galw am ei ymddiswyddiad yn dilyn cyhoeddi’r llun sy’n dangos un person wedi duo’i wyneb ac un arall yng ngwisg y Ku Klux Klan.

Ond mae Ralph Northam yn gwrthod ymddiswyddo, gan ddweud nad yw’n un o’r ddau berson yn y llun, er ei fod yn dweud bod amheuon pan welodd y llun am y tro cyntaf.

Mae Donald Trump yn dweud y byddai’r Gweriniaethwr Ed Gillespie wedi ennill yr etholiad llywodraethol yn 2017 pe bai’r llun wedi’i gyhoeddi bryd hynny.

Sylwadau am erthylu

Ac mae’r arlywydd hefyd yn feirniadol o farn Ralph Northam am erthylu, gyda’r llywodraethwr wedi’i gyhuddo o wneud sylwadau sy’n awgrymu ei fod yn cefnogi lladd plant.

Mewn cyfweliad radio, fe ddisgrifiodd Ralph Northam sefyllfa lle mae rhieni’n darganfod y bydd gan eu plentyn anableddau difrifol, ac yn gadael i’r plentyn farw.

“Mae’r Democratiaid yn dod yn blaid tros erthylu hwyr,” meddai Donald Trump ar Twitter yn dilyn y sylwadau y mae’n dweud sy’n “anfaddeuol”.

Awgrymodd fod Ed Gillespie yn teimlo bod ei wrthwynebydd yn yr etholiad yn 2017 yn euog o “gamweithredu” ac o “esgeuluso’i ddyletswydd”.