Mae llywodraethwr yn yr Unol Daleithiau’n wynebu galwadau ar iddo ymddiswyddo, yn dilyn helynt tros lun hiliol o’r gorffennol.

Cafodd y llun o Ralph Northam, llywodraethwr Virginia, ei dynnu dros 30 o flynyddoedd yn ôl.

Yn y llun, mae un person yn gwisgo gwisg y Ku Klux Klan ac un arall wedi duo’i wyneb, ac fe gafodd ei gynnwys mewn blwyddlyfr yn 1984.

Fe fu’n rhaid i’r Democrat ymddiheuro am y llun a gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener, ond mae’n ymddangos ei fod e wedi colli cefnogaeth ei blaid.