Mae protestwyr festiau melyn Ffrainc ar strydoedd Paris am y deuddegfed penwythnos yn olynol.
Maen nhw’n parhau i brotestio yn erbyn arweinyddiaeth yr Arlywydd Emmanuel Macron a’i lywodraeth.
Polisi economaidd y llywodraeth sydd dan y lach yn bennaf – yn Paris a nifer o drefi a dinasoedd eraill y wlad.
Fe fydd teyrnged arbennig i’r rhai sydd wedi cael eu lladd a’u hanafu gan yr heddlu yn ystod y protestiadau dros y tri mis diwethaf.
Hyd yn hyn, mae 10 o bobol wedi marw a thros 2,000 wedi cael eu hanafu ers sefydlu’r mudiad ar Dachwedd 17.