Mae’r awdurdodau yn Brasil yn rhybuddio pobol rhag yfed dŵr o’r afon sydd gerllaw’r argae a ddymchwelodd yr wythnos ddiwethaf (dydd Gwener, Ionawr 25).

Mae tair asiantaeth ffederal a thaleithiol yn gofyn i drigolion i beidio â defnyddio dŵr o fewn 100 metr i afon Paraopeba,  gan ei fod yn berygl i iechyd pobol ac anifeiliaid.

Maen nhw hefyd yn dweud y dylai ymladdwyr tân sydd wedi bod mewn cysylltiad â lleoliad y drychineb i gymryd gofal.

Cafodd o leiaf 99  bobol eu lladd ar ôl i’r argae dorri ger mwynglawdd yn nhalaith Minas Gerais yn nwyrain y wlad. Mae tua 260 yn dal i fod ar goll.

Ar hyn o bryd, perchennog yr argae a’r mwynglawdd, Vale SA, sy’n gyfrifol am ddarparu dŵr yfed glân i’r gymunedau hynny sydd wedi cael eu heffeithio.