Mae llywydd yr Undeb Ewropeaidd wedi cefnogi cais Macedonia i gychwyn trafodaethau ynglŷn ag ymuno â’r corff.

Daw’r cam ar ôl i Weriniaeth Macedonia ddod i gytundeb gyda Gwlad Groeg  y llynedd ynglŷn â newid ei henw i ‘Weriniaeth Gogledd Macedonia’.

Yn ôl Gweinidog Materion Ewropeaidd Rwmania, George Ciamba, mae’n awyddus i weld trafodaethau yn cychwyn mewn cyfarfod o weinidogion yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin.

Mae Rwmania, sydd ar hyn o bryd yn dal llywyddiaeth yr Undeb, hefyd yn cefnogi cais Albania i gychwyn trafodaethau.

Mae Macedonia ac Albania yn ymgeiswyr swyddogol ar gyfer ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ond does dim dyddiad ynglŷn â’u mynediad wedi’i gadarnhau eto.