Mae protest y sgarffiau cochion wedi’i chynnal yn Paris – i brotestio yn erbyn protest y festiau melyn.

Mae’r sgarffiau cochion yn brotest yn erbyn y trais a’r fandaliaeth yn ystod protestiadau’r festiau melyn yn erbyn llywodraeth Ffrainc a’r Arlywydd Emmanuel Macron.

Mae lle i gredu mai difrod i’r Arc de Triomphe fis diwethaf oedd man cychwyn protest y sgarffiau cochion a ddaeth ynghyd ar gyfer gorymdaith heddiw (dydd Sul, Ionawr 27).

“Dydyn ni ddim i gyd yn rhannu’r holl ofynion a gafodd eu mynegi gan fudiad y festiau melyn,” meddai Laurent Segnis, sy’n aelod o blaid Emmanuel Macron.

Bu farw deg o bobol mewn gwrthdrawiadau ar y ffordd ers y brotest gyntaf ar Dachwedd 17 y llynedd, ac mae oddeutu 2,000 o bobol wedi cael eu hanafu.

Mae’r protestiadau wythnosol wedi arwain droeon at wrthdaro rhwng y protestwyr a’r heddlu sy’n ceisio cadw trefn wrth i gerrig gael eu taflu atyn nhw.

Roedd 69,000 o brotestwyr y festiau melyn ar y strydoedd ar gyfer y brotest ddiweddaraf y penwythnos hwn – yr unfed wythnos ar ddeg yn olynol i brotest gael ei chynnal.